Radar
Mae’n wir, sa i’n arbennig o brydferth:
jyst cwpwl o rampie’n arwain at hen blatfform brics,
ar goll ymhlith y blode gwyllt a’r dail poethion.
Mae llwybyr i un ochor,
lle crwydra ambell i berson heibio o dro i dro,
gan fy anwybyddu’n llwyr.
Pam lai? Beth sydd i’w weld?
Ar un adeg, roedd gen i swyddogaeth,
rôl i’w chwarae, pwrpas,
ond erbyn hyn, wrth gwrs, dw i’n ddiwerth,
ac wedi bod ers degawde.
Mae hwn yn rywbeth mae’n rhaid ifi ddod i ddigymod ag e;
ond mae’r pethe ‘ma’n cymryd amser.
Ro’n i’n rhan ganolog o sytem radar.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd,
pan oedd canlyniad y rhyfel yn ddibynnol ar y dechnoleg,
daeth Ynys Echni yn ynys radar.
Radio Detection and Ranging (acronym Americanaidd):
llygad hollweledol, gwyrthiol, gwych.
Dychmygwch hyn:
wedi’i barcio ar fy nghefn, mae ‘na fan heb ffenestri,
y fan trosglwyddo.
Yn sownd i’w fframe metal, mae antenâu radio,
yn anfon tonfeddi radio ar draws y dŵr.
Pan mae rhain yn taro gwrthrych, maen nhw’n bownsio nôl.
Caiff yr adlais hyn ei nodi a’i ddarllen gan weithredwyr sy’n eistedd yn nywyllwch y fan,
yn syllu’n ofalus ar eu sgriniau bach.
Maen nhw’n gallu gweld hyd at gan milltir,
hyd yn oed yng nghanol nos, hyd yn oed yng nghanol niwl.
O’n cwmpas ni, ar bob ochor,
mae rhwyd wifren enfawr,
sy’n cywiro tirwedd anwastad yr ynys:
weiren ieir sy’n creu gwastadedd fflat, perffaith,
dros gan medr ar draws.
Fe’i gelwir yn orwel ffug.
Roedd ei angen er mwyn atal y tonfeddi rhag bownsio oddi ar y ddaear
ac ymyrryd â’r signal.
Fi oedd y plinth,
yn galluogi’r fan i sefyll uwchlaw’r we, fel pry’ copyn.
Rôl wasaidd, gallech chi ddweud, ond hanfodol.
Beth bynnag, dyna sut oedd hi bryd ‘ny,
ond fel hyn mae hi nawr.
Dw i’n bentwr brics di-nôd,
(a hyll, mae’n debyg),
ond, serch hynny, mae braint mewn bod yn relic:
fi yw’r unig ddarn o dechnoleg anhygoel radar sydd ar ôl ar yr ynys.
Na, ‘sdim angen bod yn brydferth i deimlo balchder.