Ysbyty

Pe bawn i’n emblem, beth yn union fyddai’n cynrychioli?
Mae’r cwestiwn hwn yn un dyrys.

Fy ymateb cyntaf fydde: amddiffyn.
Dyna beth o’n i, amddiffynnydd y ddinas,
amddiffyn Caerdydd rhag colera.

Cyn cael mynediad i’r porthladd, bydde llonge’n cael eu stopio
a’u harchwilio gan insbectors iechyd.
Pe bai aelod o’r criw yn arddangos symptome colera,
câi ei gludo ata’ i,
i gael ei drin oddi mewn i fy welydd cadarn,
oedd unwaith mor newydd a glân.

Byddai rhai cleifion yn gwella, eraill ddim,  
ond o leia’ byddai’r clefyd yn cael ei reoli,
y ddinas yn cael ei hamddiffyn rhag afiechyd dinistriol, cas.

Dyna un ateb i’r cwestiwn: yr ateb hunan-bwysig, mawreddog.

Ond pe bawn i’n hollol onest gyda ‘n hunan
(sef cydnabod fy stâd doredig bresennol),
onid ydw i’n cynrychioli dioddefaint?

Onid yw fy murie wedi eu trochi mewn poen?
Y diarrhoea a’r chwydu didrugaredd,
y gweddïe torcalonnus, wedi eu sibrwd mewn ieithoedd pell,
ochneneidie iasoer, olaf y rhai oedd yn darfod.

Ac yn ogystal â dioddefaint, onid ydw i’n destament i ba mor fregus yw bodau dynol?
Nid yw colera wedi diflannu:
ble bynnag ceir tlodi enbyd neu ddiffyg glendid, mae’n ffynnu.

Meddylia amdana’ i, ‘falle, fel emblem o ansefydlogrwydd,
o natur ansicr dy fywyd dy hun.
Ydw, dw i’n hanesyddol,
ond mewn byd anwadal,
dw i hefyd yn gyfredol, ac yn ddyfodol.