Ogof

Fi yw pwll llygad yr ynys:
fy edrychiad un llygeidiog, dall,
yn syllu’n ddi-ffael tuag at y tir mawr.

Fel y rhan fwyaf o ogofau’r môr,
dw i wedi cynnig lloches i bob math o greaduriaid:
o’r pysgod lleiaf i’r mamaliaid mwyaf.

“Pwy, dros y canrifoedd, oedd dy hoff breswylydd dynol?”
dyna un o’r cwestiynau gaiff ei ofyn yn gyson.
A’r ateb yw Sant Cadog, Catwg Ddoeth.

Am flynyddoedd, dychwelodd ata’ i’n ffyddlon bob gwanwyn,
i eistedd yn dawel, ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos,
yn sylwi ar beth oedd o flaen ei lygaid.
Hoffwn feddwl ei fod e’n ceisio efelychu fy edrychiad cegrwth i.

Yna, wedi iddi dywyllu,
wedi iddo nodi popeth a fedrai,
byddai’n cyfansoddi caneuon (rhai swynol, dwys)
i goffáu’r diwrnod a fu.
Byddai sain ei lais yn atseinio oddi ar fy muriau,
yn taro un arwyneb creigiog ar ôl y llall,
gan greu’r argraff ‘mod i hefyd wedi gweld yr hyn a welodd ef:
patrymau cywrain y llanw a’r trai,
eglurdeb neu bylni y bryniau pell, neu ganopi gogoneddus, disglair y wybren.