Gwn

Er ‘mod i’n wn mawr, deg tunnell, dw i’n gallu diflannu.
Hwn oedd fy nghuddfan, fy nghadarnle diogel,
ond erbyn heddi’, hwn yw fy nghofeb.

Ro’n i’n arfer eistedd ar fy nghwrcwd, rhwng y welydd,
fy mhwyse yn gorffwys ar drac cul, crwn,
yn aros yn dawel, ar bigau’r drain, am yr alwad.

Ar ôl cwpwl o grancie,
byddwn i’n sythu ‘ngoese a sefyll yn dal,
fy nhrwyn dros y parapet, yn pwyntio tuag at y môr.

Yna, deuai’r gorchymyn o’r cefn: “Fire!”

Wrth i’r belen hyrddio tuag at ei darged,
roedd nerth yr adlam yn fy nhaflu nôl lawr i’r pwll, yn saff mas o’r golwg,
diolch i brydferthwch pwyse a gwrthbwyse.

Ar ôl ymweldiad â Ffrainc, penderfynodd y Frenhines Fictoria a’r Tywysog Albert
bod llynges y Ffrancwyr yn rhy rymus a bygythiol,
felly cafon ni ein creu, a’n gosod yn strategol ar hyd yr arfordir.

Erbyn hyn, heb erioed gael ‘nhanio mewn dicter,
dw i’n gorwedd o’r neilltu, yn rhy drwm i gael fy symud,

wrthi’n rhydu, yn araf friwsioni. Ymhen amser, wedi ailymuno â’r pridd, bydd fy niflaniad yn gyflawn.