Goleudy
Allwch chi ddychmygu sut beth yw bod yn fi?
Yn wyngalch a cheinwych,
fi yw adeilad tala’r ynys,
wedi f’adeiladu ar y man mwyaf dyrchafedig.
Felly’n ffisegol, dw i’n edrych i lawr ar y cyfan.
Ond, yn ogystal â hyn, oherwydd natur fy swydd,
wrth edrych ar yr hen batris gynnau sydd ym mhobman o ‘nghwmpas,
caf fy nhemtio hefyd i hawlio’r tir moesol dyrchafedig.
Daethpwyd â’r gynnau yma gyda’r bwriad o achosi llongddrylliadau,
ac i lorio awyrennau’r gelyn,
i achosi marwolaeth trwy foddi:
tra fy swyddogaeth i yw atal pobol rhag boddi.
Anfona’r gynnau ffrwydrau dinistrol ar draws y lli,
tra anfonaf innau oleuni,
i argymell morwyr i werthfawrogi gwerth eu bywydau bregus.
Gwasanaetha’r gynnau dduw angau,
gwasanaethaf innau, dduw bywyd.
Ond, na, ni allaf farnu,
gan ‘mod i’n gwasanaethu pob morwr yn ddieithriad;
yn ogystal â helpu cychod pysgota, mae fy mhelydrau hefyd o fudd i longau rhyfel.
Mae meistri caethweision wedi elwa o fy ngholeuni.
Dw i’n gwasanaethu angau gymaint a bywyd.
Buan iawn llithra fy nhir dyrchafedig, moesol i mewn i’r môr.
Felly, ymdawelaf,
a dychwelyd at symylrwydd a niwtralaeth yr hyn dw i’n gwneud.
Nos ar ôl nos, danfonaf belydrau ar draws y moryd,
sy’n cyfathrebu’r un neges elfennol i bawb: mae ‘na beryglon, plis, cymerwch ofal.