Ffermdy

Ers canrifoedd, dw i wedi bod wrth galon holl weithgaredd dynol yr ynys:
pe bai’r ynys yn gell, fi fyddai’r cnewyllyn,
pe bai hi’n Gyfundrefn yr Haul, fi fyddai’r haul.

Dw i wastad wedi adlewyrchu llif hanes:
os roedd achos i’w wasanaethu, gwasanaethais yr achos hwnnw.

Pan oedd yr ynys yn sanctaidd, roedd yma fynachlog,
a phan gafodd hi ei dymchwel,
daeth ei cherrig yn feini sylfaen i mi.

Pan oedd yr ynys yn fferm
(noddfa amaethyddol mewn diffeithwch dyfriog),
fi oedd y ffermdy.

Pan oedd ceidwaid y goleudy a’r niwlgorn angen eu bwydo,
fi ddarparodd y bwyd.

Pan oedd y Fictoriaid angen amddiffynfa filitaraidd,
fi fwydodd y milwyr.

Pan oedd angen ysbyty colera,
fi fwydodd y doctoriaid a’r nyrsys,
a meithrin y cleifion lwcus nôl i’w nerth.

Pan oedd y Natsïaid yn bygwth ymosod,
a daeth yr ynys yn system amddiffynnol awyr,
fi oedd pencadlys y swyddogion.

Yna, pan ddaeth twristiaid i ymweld, ar eu tripiau undydd o’r ddinas, ac angen diod,
des i’n dafarn: canolfan pob difyrrwch.

A bellach, pan fod angen i ddynoliaeth warchod natur
(yma yn ogystal â phobman arall),
fi yw cartref y warden a’r gwirfoddolwyr,
wrth iddynt feithrin iachâd yr ynys,
yn darparu noddfa wyllt mewn byd or-ddynol-ganolog.