Podlediad 3
Rhan o Ddehongliad Ynys Echni Artstation – Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Wedi’i ddarllen gan Glenn Davidson
Ar 14 Mawrth 2022, fe wnes i badlo ar draws llanw Aber Afon Hafren gyda’r caiaciwr profiadol Tavi Murray. Gadawsom o Benarth, gan badlo i fyny’r arfordir i Drwyn Larnog, cyn bwrw ’mlaen ar draws y maes tonnau i Ynys Echni.
Rwy’n reidio ‘maes tonnau newidiol’ sy’n ymdonni dan ddylanwad y lleuad, y llanw, a’r gwynt. Roedd Marconi ymhlith y cyntaf i weld y potensial o reidio’r maes electromagnetig yn yr aber, gan ryddhau egni cyfathrebu i bedwar ban byd. Y daith yw fy ffordd o ddathlu trosglwyddiad diwifr cyntaf y byd dros ddŵr, gan ddilyn yr un llwybr ag ym mis Mai 1897.
Dyma bodlediad o’r profiad hwnnw. Roedd yn anodd ei recordio, ond mae’n seinwedd o amodau a chyfeiriadedd sy’n newid yn gyflym. Mae wedi’i anodi gan ein cyfathrebiadau llais, wrth i ni rannu’r profiad ar draws y dŵr rhwng ein caiacau. Peidiwch â chwympo mas!
Cyfweliad: Mae’r hanesydd lleol Glyn Jones yn creu darlun o’r ffigurau allweddol ar y traeth yn Larnog ar gyfer y trosglwyddiad cyntaf dros y dŵr wnaeth newid y byd.
Cyfweliad: cafodd ei recordio ar yr ynys ger yr ysbyty colera, gydag arbenigwyr gofal lliniarol a chlefydau heintus y GIG, ac mae’r pandemig yn cael ei weld trwy lens COVID-19 diweddar.
Podlediad: Rwy’n padlo o Larnog i Ynys Echni mewn caiac môr gyda Dr Tavi Murray, padlwr profiadol y maes tonnau dŵr pwerus yn aber Afon Hafren.