Podlediad 2

Rhan o Ddehongliad Ynys Echni Artstation – Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Wedi’i ddarllen gan Glenn Davidson

Ar 21 Ebrill 2022, aeth yr artist Glenn Davidson ag Andrew Freedman, arbenigwr mewn clefydau heintus, a Mark Taubert, Cyfarwyddwr Clinigol Meddygaeth Liniarol yn Ysbyty Felindre, i Ynys Echni. Aeth plant Mark, Anwen (9) ac Idris (4), gyda nhw i weld a thrafod yr hen ysbyty colera. Fel mae’n digwydd, aeth y tîm yn sownd ar yr ynys tan yn hwyr yn y nos. Roedd y profiad yn fwy ymdrochol na’r disgwyl. 

Mae adfeilion yr ysbyty colera ar Ynys Echni yn ei gwneud hi’n anodd i ymwelydd ddychmygu ei hanes brawychus. Atgof iasol o’r eneidiau clwyfus o’r amlosgfa drws nesaf.  

Y llynedd, at ddiben hyfforddi myfyrwyr, gwnaethom recordio rownd ward ddyddiol Mark. Mae’r recordiad deuseiniol yn rhoi’r gwrandäwr yn ôl yn y lleoliad clinigol gyda synau’r ysbyty o’u cwmpas mewn 3D. Bu farw un claf, Vicky, a dewisodd ei theulu gofio ei bywyd a’i chariad at y celfyddydau trwy roi caniatâd i ni ddefnyddio ei recordiad fel rhan o’r gwaith dehongli hwn. Gellir ei ddefnyddio mewn trac sain ffilmio wedi’i gynllunio.

Pa debygrwydd sydd rhwng bywyd mewn ysbyty ynysu ar ddiwedd y 19eg ganrif i ddechrau’r 20fed ganrif a’n brwydr gyfoes yn erbyn COVID – rhywbeth y mae gan bob un ohonom brofiad uniongyrchol ohono? A all y profiad hwn ein helpu i ddeall ymhellach y bygythiad hanesyddol o golera a swyddogaeth yr ysbyty? 

Mae Mark wedi darparu gofal trwy gydol COVID, gan wisgo masgiau wyneb ac offer amddiffynnol i’w ynysu ei hun rhag haint a throsglwyddiad.  Dyma Mark ac Andrew yn sefyll o flaen yr ysbyty colera ar Ynys Echni. Mae meddyliau’r plant yn dilyn.