Podlediad 1
Rhan o Ddehongliad Ynys Echni Artstation – Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
gan Glenn Davidson
Ar 29 Mawrth 2022, cyfarfu’r artist Glenn Davidson a Rob Owen â Glyn Jones. Dros ei fywyd, mae Glyn wedi casglu casgliad anhygoel o erthyglau, lluniau a gwrthrychau yn catalogio bywyd a dyfeisiadau Guglielmo Marconi.
Gofynnon ni i Glyn ddisgrifio’r olygfa wrth i Marconi ymgynnull, gydag eraill, ar y glannau yn Nhrwyn Larnog wrth baratoi i dderbyn y cyfathrebiad telegraffi cyntaf wedi’i anfon dros ddŵr.
Roedd y neges i gael ei throsglwyddo gan ei dîm, dan arweiniad peiriannydd Swyddfa’r Post, George Stephen Kemp, a oedd yn aros ar Ynys Echni.
Gwnaeth dealltwriaeth dechnegol Marconi o’i ddyddiau’n arbrofi helpu i wella’r ymarferoldeb a sicrhau datblygiad telegraffi yn yr hirdymor, o’r hyn a elwid yn Osgiladiadau Hertz. Cafodd y rhain eu henwi ar ôl y gwyddonydd Heinrich Hertz a ddarganfu amledd tonnau.
Rydyn ni’n adnabod yr osgiladiadau hyn heddiw fel tonnau radio. Manteisiodd y Marconi ifanc hefyd ar gefnogaeth prif beiriannydd Swyddfa’r Post, William Henry Preece.
Mae hon yn foment fawr yn hanes Cymru, pan fu’r byd yn gwylio; adeg a sbardunodd ddatblygiad cyfathrebu di-wifr byd-eang sydd bellach yn ganolog i’n ffordd o fyw. Mae Glyn yn sôn am y bobl a oedd yno a beth ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw ar draeth Larnog – 13 Mai 1897.
Cyfweliad: Mae’r hanesydd lleol Glyn Jones yn creu darlun o’r ffigurau allweddol ar y traeth yn Larnog ar gyfer y trosglwyddiad cyntaf dros y dŵr wnaeth newid y byd.
Cyfweliad: cafodd ei recordio ar yr ynys ger yr ysbyty colera, gydag arbenigwyr gofal lliniarol a chlefydau heintus y GIG, ac mae’r pandemig yn cael ei weld trwy lens COVID-19 diweddar.
Podlediad: Rwy’n padlo o Larnog i Ynys Echni mewn caiac môr gyda Dr Tavi Murray, padlwr profiadol y maes tonnau dŵr pwerus yn aber Afon Hafren.