Croeso
Mae Ynys Echni yn ynys fechan ym Môr Hafren, yng Nghymru. Mae’n eiddo i Gyngor Caerdydd ac yn cael ei rheoli ganddo fel gwarchodfa natur, safle treftadaeth a chyrchfan i ymwelwyr.
Mae celf.ynysechni.com yn ddehongliad artist o Ynys Echni, a gomisiynwyd gan Gyngor Caerdydd fel rhan o’r prosiect Ynys Echni – Cerdded Drwy Amser. Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac mae’n rhedeg o 2018 i 2025. Mae ein prif wefan yn cynnwys rhagor o wybodaeth am hanes a natur yr ynys a gwybodaeth am sut i ymweld â hi.
Mae’r wefan hon, cerflun, a llwybr baneri neu ffordd orymdeithiol wedi’u dyfeisio a’u dylunio gan yr artist Glenn Davidson. Hoffai Cyngor Caerdydd a’r artist ddiolch i bawb sydd wedi helpu i ariannu a dod â’r corff unigryw a gwreiddiol hwn o waith artistig at ei gilydd.